Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (280)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyhoeddi Adroddiad Flynn (45 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyflwyniad i'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (60 munud) |
5 Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016 (30 munud) NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 23 Mehefin 2015. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfen Ategol |
6 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 (45 munud) NDM5813 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra)
(Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015.
|
7 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud) NDM5814 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) Gosodwyd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Chwefror 2015. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 3 Gorffennaf 2015. Dogfennau Ategol Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
8 Dadl ar Benderfyniad Ariannol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (5 munud) NDM5815 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. |
9 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2015